Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu

14 Mai 2018

Annwyl Brif Gwnstabliaid,

Yr Ardoll Brentisiaethau

Mae’r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn adolygu effaith Ardoll Brentisiaethau y DU ar Gymru ar hyn o bryd.

Fel rhan o’r adolygiad hwn, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Cododd y Pwyllgor y mater o hyfforddiant ar gyfer yr heddlu yng Nghymru.  Mae’r heddlu wedi dweud wrth y Pwyllgor yn flaenorol bod yr Ardoll yn costio oddeutu £2 filiwn y flwyddyn iddynt, ond nid ydynt yn gallu cael gafael ar arian ar gyfer prentisiaethau’r heddlu.   

Mae’r Pwyllgor yn deall bod trafodaethau rhwng y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r Heddlu yng Nghymru yn parhau.  Er mwyn llywio ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater hwn, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

• Manylion eich dealltwriaeth o’r trafodaethau parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref, gan gynnwys yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer penderfyniad ar y mater, a’ch cyfranogiad chi yn y trafodaethau; ac

• Amlinelliad o’r penderfyniad yr ydych yn ei geisio gyda Llywodraeth Cymru.

Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref i ofyn am eu barn ar y mater hwn. 

 

Yn gywir,

 

Russell George AC

Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau